Polisi preifatrwydd

Beth sy’n cael ei gynnwys yn y polisi hwn

Sut mae Safle Sgwrsio’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol  yn defnyddio eich data a'ch hawliau o ran gwybodaeth bersonol.


Cyflwyniad

Mae'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru (‘y Comisiwn’) wedi'i sefydlu i gyflawni dau amcan eang. Yr amcan cyntaf yw ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau’n rhan annatod ohoni. Yr ail amcan yw ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.

I'n helpu i gyflawni'r amcanion hyn, rydym yn gofyn barn y bobl bwysicaf yn y drafodaeth hon – sef dinasyddion Cymru.

Data personol

Drwy gofrestru ar Safle Sgwrsio’r Comisiwn rydych wedi nodi bod gennych ddiddordeb mewn darparu eich barn ar y pwnc a gwmpesir gan y Safle Sgwrsio. Bydd y manylion cyswllt y byddwch yn eu darparu wrth gofrestru yn cael eu brosesu gennym i'ch diweddaru ar gynnydd a chanfyddiadau sy'n dod i'r amlwg. Gallwch 'optio allan' o'r diweddariadau hyn ar unrhyw adeg gan ddefnyddio'r ddolen dad-danysgrifio wrth droed unrhyw e-byst rydym ni'n eu hanfon atoch chi. 

Rydym yn defnyddio Engagement HQ (wedi'i ddarparu gan Bang the Table) i gasglu gwybodaeth ar ein rhan, dyma'r platfform y byddwch yn cofrestru arno i ddarparu eich ymatebion. 

Mae unrhyw ddata a gesglir gan Engagement HQ yn cael ei storio ar weinyddion y DU. Gallwch ddod o hyd i'w datganiad preifatrwydd yma https://www.bangthetable.com/privacy-policy/ 

Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymarfer ymgysylltu hwn ac, mewn rhai achosion, yr ymatebion eu hunain, ond ni fydd y rhain yn cynnwys unrhyw ddata personol. 

Ar ôl cael yr wybodaeth, Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar ei chyfer. Y sail gyfreithlon o brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer hwn yw ein tasg gyhoeddus, sy'n arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru [troednodyn 1]. Mae cyfranogiad unigol yn wirfoddol.

  

1  Mae'r Comisiwn yn annibynnol ar y Llywodraeth yn yr ystyr ei fod yn gallu datblygu argymhellion, ceisio tystiolaeth ac fel arall gyflawni ei rôl heb ymyrraeth wleidyddol gan Weinidogion. Nid yw'r Cyd-Gadeiryddion a'r Comisiynwyr yn cael eu cyflogi gan Lywodraeth Cymru. Er hynny, Llywodraeth Cymru sy'n darparu'r cymorth gweithredol i'r Comisiwn, a bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn rheoli cronfa ddata'r rhestr bostio.


Storio data

Bydd y data canlynol yn cael ei gasglu ar Safle Sgwrsio’r Comisiwn .

  • Data personol y gellir ei hadnabod : Er mwyn cymryd rhan yn y trafodaethau ymgysylltu ar-lein ar y safle bydd gofyn i gyfranogwyr y safle gofrestru, gofynnir iddynt am ddata gorfodol fel a ganlyn:
    1. Mewngofnodi neu Enw defnyddiwr
    2. Cyfeiriad e-bost  
      1. Rhan cyntaf o’ch Cod Post
      2. Blwyddyn Geni

Yr hyn a wnawn ag ef

Rydym yn prosesu'r wybodaeth yn fewnol at y diben a nodir uchod. Ni fyddwn yn rhannu eich data personol ag unrhyw drydydd parti heb eich caniatâd. Ni fydd Engagement HQ yn rhannu data ag unrhyw drydydd parti. Maent yn caniatáu i staff gweinyddol gael mynediad i ddata defnyddwyr tra'n cynorthwyo cleientiaid ag unrhyw faterion y gallent fod yn eu profi; fodd bynnag, mae holl ddata'r cleient yn cael ei dynnu'n rheolaidd o'u dyfeisiau.

Am ba hyd rydyn ni'n ei gadw

Byddwn yn cadw'r ymatebion sy'n gysylltiedig â'r Safle Sgwrsio hyd nes bod ein gwaith ar y pwnc wedi'i gwblhau. Bydd yr holl ddata personol y gellir ei hadnabod yn cael ei ddileu o'r holl weinyddion 3 mis ar ôl cwblhau cytundeb y Safle Sgwrsio (31 Mawrth 2024), er mwyn rhoi amser i lawrlwytho a chael mynediad at ddata ar gyfer adrodd yn nol i'r Comisiwn. O'r herwydd, bydd unrhyw ddata a gedwir ar Engagement HQ yn cael ei buro o'u gweinyddwyr erbyn 31 Gorffennaf 2024.

Ble byddwn ni'n ei gadw?

Bydd yr holl ddata personol y gellir ei hadnabod yn cael ei gadw ar weinyddion diogel a gynhelir yn y DU, naill ai ar Engagement HQ, neu eu lawrlwytho ar gyfer eu gwneud yn ddienw i'w ddadansoddi ar weinyddion Llywodraeth Cymru. Ni fydd data adnabod yn cael ei gopïo na'i lawrlwytho i unrhyw weinydd allanol ar wahân i'r rhai a restrir. 

Defnyddio gwybodaeth

Yn ein cylch gwaith fel rheolydd data, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r wybodaeth sy’n dod i law, at y dibenion isod. Mae'r dibenion hyn yn angenrheidiol er mwyn ein galluogi i gyflawni ein tasg gyhoeddus ac wrth arfer ein hawdurdod swyddogol:

  • cysylltu ag unigolion sydd wedi mynegi dymuniad i gael gwybod am weithgarwch y Comisiwn
  • monitro'r ymgysylltiad cyffredinol â'r Comisiwn

Hawliau unigol

O dan y GDPR mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'r gwerthusiad hwn:

  • hawl i gael mynediad (gofyn am gopi o'ch data eich hun)
  • hawl i gywiro (cywiro gwybodaeth anghywir)
  • hawl i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu data
  • hawl i ddileu data
  • hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Cyswllt

Os hoffech drafod sut mae eich data yn cael ei storio a'i brosesu, gallwch cysylltu ag Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn:

Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
 CF10 3NQ

ComisiwnyCyfansoddiad@llyw.cymru 

Yn unol â'r hawl derfynol a nodir uchod, gellir cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn: casework@ico.org.uk neu ar 029 2067 8400 / 0303 123 1113. Ceir rhagor o fanylion am y Comisiynydd Gwybodaeth isod. 

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru)
Churchill House
17 Ffordd Churchill
Caerdydd
 CF10 2HH

Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth