Polisi cwcis
Rydyn ni’n defnyddio cwcis i helpu ein gwefan i weithio, i sicrhau ein bod yn rhoi’r profiad digidol gorau i chi ar ein gwefan ac i ddysgu sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio. Mae’r Polisi Cwcis yma’n esbonio: beth yw cwcis, y cwcis rydyn ni'n eu defnyddio, sut rydyn ni'n eu defnyddio a’r wybodaeth rydyn ni'n ei chasglu ganddyn nhw.
I gael rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni’n casglu, yn defnyddio, yn rhannu ac yn diogelu eich gwybodaeth bersonol, gweler ein Polisi Preifatrwydd.
Ein defnydd o gwcis
Mae cwcis yn ein helpu i gynnig gwefan well i chi, drwy ein galluogi i fonitro pa dudalennau neu nodweddion sy’n ddefnyddiol i chi a pha rai nad ydyn nhw.
Beth yw Cwci?
Ffeil destun fach yw cwci sy'n cael ei gosod ar eich cyfrifiadur neu ddyfais pan fydd gwefan yn llwytho ar eich porwr gwe. Caiff cwcis eu defnyddio’n eang i’ch “cofio” chi a’ch dewisiadau. Mae’r cwcis hynny’n cael eu gosod ganddon ni, a’r enw ar y cwcis hynny yw cwcis parti cyntaf. Rydyn ni hefyd yn defnyddio cwcis trydydd parti – sef cwcis o barth gwahanol i barth y wefan rydych chi'n ymweld â hi – ar gyfer ein nodweddion hysbysebu a marchnata. Nid yw cwcis yn gallu cael mynediad at unrhyw wybodaeth sydd ar eich cyfrifiadur ac mae'r rhan fwyaf o borwyr gwe yn derbyn cwcis yn awtomatig. I ddysgu rhagor am gwcis ewch i allaboutcookies.org (Gwefan allanol).
Y wybodaeth a gaiff ei chasglu a’n diben ar gyfer defnyddio cwcis
Mae’n bosib y byddwn ni’n defnyddio cwcis i gofnodi gwybodaeth ddienw, nad yw’n bersonol, am eich ymweliadau â’r wefan yma er mwyn mesur diddordeb ymgysylltu.
Mae’n bosib y byddwn ni hefyd yn casglu gwybodaeth nad yw’n bersonol am eich ymweliad â'n gwefan, yn seiliedig ar eich gweithgareddau pori (ffrwd clicio). Mae’r wybodaeth yma’n cynnwys y tudalennau a borwyd, y prosiectau a welwyd, yr offer a ddefnyddiwyd a data dadansoddol arall. Rydyn ni’n defnyddio’r manylion yma i wella sut mae ein gwefan yn gweithredu ac i ddeall sut mae defnyddwyr yn rhyngweithio â hi.
Rydyn ni’n defnyddio gwahanol raglenni a gwasanaethau trydydd parti i wella profiad ymwelwyr â’r wefan. Mae’r rhain yn cynnwys llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, LinkedIn a Twitter (drwy ddefnyddio botymau rhannu), neu gynnwys wedi’i fewnosod o YouTube a Vimeo. O ganlyniad, efallai y bydd cwcis yn cael eu gosod gan y trydydd partïon yma, a'u defnyddio ganddyn nhw i olrhain eich gweithgarwch ar-lein. Does ganddon ni ddim rheolaeth uniongyrchol dros y wybodaeth a gaiff ei chasglu gan y cwcis yma.
Rydyn ni’n defnyddio’r cwcis canlynol
Mae rhai o'r cwcis yma’n ‘hollol angenrheidiol’ i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac nid oes modd eu diffodd, tra bod modd diffodd cwcis eraill, os ydyn nhw’n bresennol. Cliciwch yma i weld neu addasu’r gosodiadau yma
Rydyn ni’n defnyddio cwcis a thechnolegau olrhain eraill at y dibenion canlynol:
Cwcis Hanfodol
Mae'r cwcis yma’n angenrheidiol er mwyn galluogi swyddogaethau craidd y wefan. Heb y cwcis yma, does dim modd i’r wefan weithio'n iawn
Cwcis Dadansoddol
Mae cwcis dadansoddol yn ein helpu i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, yn bennaf i weld a yw defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau maen nhw’n chwilio amdanyn nhw a gweithredu arnyn nhw. Maen nhw’n ein galluogi i adnabod a chyfri nifer yr ymwelwyr a gweld sut mae ymwelwyr yn symud drwy ein gwefan pan fyddan nhw’n ei defnyddio.
Rydyn ni’n defnyddio Google Analytics i fesur sut rydych chi’n defnyddio’r wefan fel y gallwn ei gwella ar sail anghenion ein defnyddwyr. Mae Google Analytics yn gosod cwcis sy'n storio gwybodaeth ddienw am:
- sut y cyrhaeddoch chi’r wefan
- y tudalennau rydych chi’n ymweld â nhw ar www.defnyddiadylais.cymru a faint o amser rydych chi’n ei dreulio ar bob tudalen
- beth rydych chi’n clicio arno tra eich bod chi’n ymweld â’r wefan
Cwcis Targedu
Gall y cwcis yma gael eu gosod drwy ein gwefan gan ein partneriaid hysbysebu. Gall y cwmnïau hynny eu defnyddio i greu proffil o’ch diddordebau a dangos hysbysebion perthnasol i chi ar wefannau eraill. Dydyn nhw ddim yn storio gwybodaeth bersonol uniongyrchol, ond mae’r wybodaeth yn seiliedig ar adnabod eich porwr a’ch dyfais rhyngrwyd unigryw. Os na fyddwch yn caniatáu'r cwcis yma, byddwch yn profi llai o hysbysebion wedi'u targedu.
Cwci | Parth | Disgrifiad | Hyd |
current language | www.defnyddiadylais.cymru | Mae'r cwci yma’n cael ei greu gan y system rheoli cynnwys ac mae'n hanfodol er mwyn i’r wefan arddangos yr iaith gywir. | y sesiwn |
_ehq_uid | www.defnyddiadylais.cymru | Mae HQ yn ein galluogi i gyfri nifer yr ymwelwyr a gweld sut mae ymwelwyr yn symud drwy ein gwefan pan fyddan nhw’n ei defnyddio. | 1 flwyddyn 1 mis a 4 diwrnod |
_ehq_last_visit | www.defnyddiadylais.cymru | Mae Engagement HQ yn ein galluogi i adnabod yr ymwelwyr a gweld sut mae ymwelwyr yn symud drwy ein gwefan pan fyddan nhw’n ei defnyddio. | 1 flwyddyn 1 mis a 4 diwrnod |
_ehq_session_id | www.defnyddiadylais.cymru | Mae Engagement HQ yn ein helpu i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, yn bennaf i weld a yw defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau maen nhw’n chwilio amdanyn nhw a gweithredu arnyn nhw. Maen nhw’n ein galluogi i adnabod a chyfri nifer yr ymwelwyr a gweld sut mae ymwelwyr yn symud drwy ein gwefan pan fyddan nhw’n ei defnyddio. | 30 munud |
_engagementhq_v3 | www.defnyddiadylais.cymru | Mae'r cwcis yma’n angenrheidiol er mwyn galluogi swyddogaethau craidd y wefan. Heb y cwcis yma, does dim modd i’r wefan weithio'n iawn. | 2 ddiwrnod |
ugid | .unsplash.com | Mae Unsplash yn gosod y cwci yma i alluogi’r cynnwys fideo ar y wefan. | Blwyddyn |
_ga | .defnyddiadylais.cymru | Mae Google Analytics yn gosod y cwci yma i gyfrifo data ymwelwyr, sesiynau ac ymgyrchoedd a hefyd yn olrhain defnydd o’r wefan ar gyfer adroddiad dadansoddeg y wefan. Mae’r cwci’n storio gwybodaeth yn ddienw ac yn dynodi rhif a gynhyrchir ar hap i adnabod ymwelwyr unigryw. | 1 flwyddyn 1 mis a 4 diwrnod |
_gid | .defnyddiadylais.cymru | Mae Google Analytics yn gosod y cwci yma i storio gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio gwefan, tra hefyd yn creu adroddiad dadansoddeg o berfformiad y wefan. Mae peth o’r data a gesglir yn cynnwys nifer yr ymwelwyr, eu ffynhonnell, a’r tudalennau maen nhw’n ymweld â nhw’n ddienw. | Diwrnod |
_gat_gtag_UA_* | .defnyddiadylais.cymru | Mae Google Analytics yn gosod y cwci yma i storio rhif adnabod defnyddiwr unigryw. | Munud |
_ga_* | .defnyddiadylais.cymru | Mae Google Analytics yn gosod y cwci yma i storio a chyfri ymweliadau â thudalennau. | 1 flwyddyn 1 mis a 4 diwrnod |
ugid | .unsplash.com | Mae Unsplash yn gosod y cwci yma i alluogi’r cynnwys fideo ar y wefan. | Blwyddyn |
YSC | .youtube.com | Mae YouTube yn gosod y cwci yma i gyfri gwyliadau fideos sydd wedi'u mewnosod ar dudalennau YouTube. | y sesiwn |
VISITOR_INFO1_LIVE | .youtube.com | Mae YouTube yn gosod y cwci yma i fesur band llydan i bennu a yw’r defnyddiwr yn gweld y rhyngwyneb chwarae fideos hŷn neu ddiweddaraf. | 5 mis 27 diwrnod |
CONSENT | .youtube.com | Mae YouTube yn gosod y cwci yma drwy fideos YouTube sydd wedi’u mewnosod ar ein gwefan ac yn cofrestru data ystadegol dienw. | Dwy flynedd |
_fbp | Yn cael ei ddefnyddio i adnabod defnyddwyr ar draws tudalennau gwe lle mae picsel Facebook wedi’i osod. Mae picsel yn cadw dynodwr unigryw yn awtomatig i gwci _fbp ar gyfer parth y wefan os nad oes un yn bodoli eisoes. | 3 mis | |
_fbc | Yn cael ei ddefnyddio i adnabod y ddolen a gliciwyd i ddechrau gan ddefnyddiwr ar draws tudalennau gwe lle mae picsel Facebook wedi’i osod. Mae dolenni hysbyseb (link ad) Facebook weithiau’n cynnwys paramedr ymholiad fbclid. Pan fydd y defnyddiwr yn glanio, bydd picsel yn cadw’r paramedr ymholiad fbclid i gwci _fbc yn awtomatig ar gyfer parth y wefan honno. | 3 mis |
Cysylltwch â ni
Os hoffech ragor o wybodaeth am ein Polisi Cwcis, neu os oes gennych unrhyw sylwadau amdano neu am y ffordd rydyn ni’n trin eich Gwybodaeth Bersonol, cysylltwch ag ysgrifenyddiaeth y Comisiwn:
Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
ComisiwnYCyfansoddiad@llyw.cymru