Gronfa ymgysylltu â'r cymuned
Ym mis Gorffennaf 2022, lansiwyd ein Cronfa Ymgysylltu â'r Gymuned. Gwnaethom gefnogi 11 o grwpiau a sefydliadau i gynnal gweithgareddau ymgysylltu yn eu cymunedau. Bu hyn o gymorth i'r cymunedau hynny glywed am ein gwaith, a chymryd rhan ynddo, drwy bartneriaid y maent yn ymddiried ynddynt, ac mewn llefydd cyfarwydd.
Mae'r rhaglen ymgysylltu â'r gymuned wedi helpu i sicrhau bod barn llawer o gymunedau amrywiol yng Nghymru yn cael ei chlywed a bod ein hadroddiadau yn adlewyrchu eu barn.
Diolch yn fawr i’n partneriaid cymunedol:
- Fforwm Cymru Gyfan i Rieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu (Cymru gyfan)
- ArtsFactory (Rhondda Cynon Taf)
- Autistic Minds (Caerffili a’r de-ddwyrain)
- Menter Effaith Gymunedol CIC (Castell-nedd Port Talbot)
- Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol Cymru (Cymru gyfan)
- Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru (y gogledd)
- Cyngor Hil Cymru (Abertawe)
- MAD Abertawe (Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot)
- Tai Pawb (Caerdydd)
- Lleisiau o Ofal Cymru (Cymru gyfan)
- O Iaith i Gan, mewn cydweithrediad â Chymunedau Adfer Gogledd Cymru (Gogledd Cymru)
Cynnwys
Dyma gipolwg ar y gwaith a wnaed gan rai o'r grwpiau fel rhan o'u gwaith ymgysylltu â'u cymunedau:
O Iaith i Gân
Grŵp bychan o ymarferwyr creadigol ar lawr gwlad o Fangor yw O Iaith i Gân, sy'n cynnal gweithdai rap ac ysgrifennu creadigol i blant ac oedolion ym Mangor, Caernarfon, Blaenau Ffestiniog a threfi gwledig eraill yn y Gogledd. Ar gyfer y prosiect hwn, ymunodd O Iaith i Gân â Chymunedau Adfer Gogledd Cymru, sy'n rhedeg canolfan adfer, mentrau tyfu bwyd, cynllun rhannu bwyd a chaffi cymunedol - sef Bwyd Da Bangor - gyda'r holl elfennau hyn yn gweithio gyda'i gilydd fel system integredig. Gyda'i gilydd, aethant ati i ymgysylltu'n greadigol â nifer o wahanol grwpiau cymunedol, er mwyn dysgu o'r profiad helaeth sydd ganddynt a chael eu barn ar ddyfodol ein cenedl.
Fel rhan o'u hadroddiad terfynol i'r Comisiwn, crëwyd trac cerddoriaeth ddwyieithog gyda geiriau sy'n defnyddio'r prif negeseuon a ddaeth i'r amlwg yn ystod yr ymgysylltu.
MAD Abertawe
Mae MAD Abertawe yn elusen ieuenctid a chymunedol cynhwysol ar lawr gwlad sy'n gweithio i frwydro yn erbyn tlodi a hiliaeth ac i hyrwyddo cydraddoldeb. Drwy'r gwaith ymgysylltu a wnaed â'r Comisiwn aethant ati i hwyluso cyfres o weithgareddau ymgysylltu gan gynnig cyfleoedd i bobl gymryd rhan yn y sgwrs genedlaethol ar ddyfodol Cymru, gan gynnwys:
- Gweithgareddau ymgysylltu yn ystod gweithdai digidol, cymorth cyflogadwyedd, cynhyrchu cerddoriaeth, sesiynau Metafyd a gweithdai codio
- Digwyddiadau Cymunedol
- Gweithgareddau allgymorth, gan gynnwys gweithdai DJ gyda disgyblion yn Ysgol Pentrehafod, Abertawe
- Cyfarfodydd Tîm MAD Abertawe
Cyngor Hil Cymru
Gweithiodd Cyngor Hil Cymru mewn partneriaeth â Chanolfan Gymunedol Affrica a'r Gymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru i rannu gwybodaeth ac adnoddau yn rhanbarthol ac i gyfrannu eu lleisiau, eu profiad bywyd a'u harbenigedd i waith y Comisiwn.
Aethant ati gyda'i gilydd i gyflwyno sesiynau ymgysylltu a oedd yn canolbwyntio'n bennaf ar fenywod ethnig leiafrifol, gan gynnwys menywod sydd hefyd ar y cyrion am eu bod yn famau sengl, yn anabl, o dan anfantais economaidd, yn aelodau o'r gymuned LHDT+ ac am ffactorau eraill.
Tai Pawb
Mae Tai Pawb yn sefydliad aelodaeth. Ymhlith ei aelodau y mae'r holl gymdeithasau tai yng Nghymru, y mwyafrif o'r awdurdodau lleol a grŵp o bartneriaid o'r trydydd sector.
Er mwyn helpu i hyrwyddo llais ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn y trafodaethau ynghylch dyfodol cyfansoddiadol Cymru, roedd yn bwysig teilwra'r ffordd o weithio ar gyfer eu hanghenion nhw. Diolch yn arbennig i Ganolfan Ffoaduriaid Oasis a gwasanaeth galw heibio Hoops and Loops am roi cyfle inni fynd i'w gwasanaethau i hyrwyddo'r ymgynghoriad.
Grŵp Theatr yr Urdd
Prif amcan Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd yw cynnig cyfleoedd i bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed fwynhau ac ehangu eu profiad yn y celfyddydau ac mewn perfformiadau theatr drwy gyfrwng y Gymraeg.
Aeth aelodau o Gwmni Theatr Ieuenctid Cymru i gwrs preswyl yng Nglan-llyn, Llanuwchllyn. Fel rhan o waith paratoi'r cwmni dros y penwythnos ar gyfer ei sioe theatr ym mis Medi, neilltuwyd amser i ddangos gwaith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru i'r bobl ifanc.
Fforwm Ieuenctid Conwy
Mae Fforwm Ieuenctid Conwy yn trefnu amryw ddigwyddiadau i bobl ifanc leol, gan roi cyfle i bobl 11 oed a hŷn gwrdd a sgwrsio wrth gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau.
Gwahoddwyd aelodau o Fforwm Ieuenctid Conwy i ddigwyddiad yng Nghaerdydd i drafod gwaith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
Prif ddiben y Comisiwn wrth drefnu'r digwyddiad hwn oedd cael barn pobl ifanc ar y gwaith sy'n cael ei gynnal ac i wneud y canlynol:
- Dangos gwaith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru i'r bobl ifanc
- Canfod i ba raddau yr oeddent yn deall sut mae Cymru'n cael ei rhedeg ar hyn o bryd.
- Ymchwilio i ba raddau yr oeddent yn deall y 3 opsiwn o safbwynt person ifanc.
Wnaethoch chi ymuno?
Beth am adael neges yn ein llyfr ymwelwyr isod, byddem yn falch o glywed gennych chi
Rhowch wybod ble roeddech chi’n cymryd rhan, drwy roi pin yn ein map isod. Helpwch ni i gadw golwg ar ein sgwrs ledled Cymru
Cofrestwch i gymryd rhan yn ein Safle Sgwrsio. Cliciwch ar y faner ar ochr dde'r dudalen hon
Diolch am eich cyfraniad!
Helpwch ni i estyn allan at fwy o bobl yn y gymuned
Rhannu hwn gyda theulu a ffrindiau