Adroddiad terfynol

Rhannu Adroddiad terfynol ar Facebook Rhannu Adroddiad terfynol Ar Twitter Rhannu Adroddiad terfynol Ar LinkedIn E-bost Adroddiad terfynol dolen

Mae'r adroddiad terfynol wedi'i gyhoeddi ac mae’n dod i'r casgliad bod annibyniaeth, system ffederal ac atgyfnerthu datganoli i gyd yn opsiynau hyfyw ar gyfer dyfodol Cymru. Mae hefyd yn argymell bod angen rhagor o bwerau ar unwaith mewn meysydd penodol sef cyfiawnder, plismona a seilwaith rheilffyrdd, er mwyn diwallu anghenion pobl Cymru.

Daw’r adroddiad i’r casgliad bod angen deddfu i wneud newidiadau i gysylltiadau rhynglywodraethol , a bod angen gwneud newidiadau sylweddol hefyd i’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru’n cael ei hariannu, er mwyn sicrhau bod datganoli yn gwella atebolrwydd yn ogystal â gwella’r ffordd mae gwasanaethau’n cael eu darparu i bobl Cymru. Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma. Cyflwynwyd yr adroddiad terfynol i’r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2024. Mae’r canfyddiadau’n cael eu hystyried nawr a byddant yn llywio'r drafodaeth sy’n parhau ynghylch newid cyfansoddiadol yng Nghymru ac yn y DU yn ehangach.

Rydym eisiau i bob cymuned yng Nghymru deimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn y sgwrs genedlaethol. I helpu gyda hynny, rydym wedi creu fideo BSL yn egluro crynodeb gweithredol ein hadroddiad terfynol. Gallwch wylio hwnna isod 👇

Diweddaru: 05 Chwef 2024, 03:35 PM