Adroddiad Interim

Rhannu Adroddiad Interim ar Facebook Rhannu Adroddiad Interim Ar Twitter Rhannu Adroddiad Interim Ar LinkedIn E-bost Adroddiad Interim dolen

Ym mis Rhagfyr 2022 gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad interim sy’n amlinellu cam cyntaf ein gwaith. Yn ystod y cyfnod hwn – rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Tachwedd 2022 – rydym wedi gwrando ar safbwyntiau, barn a thystiolaeth ar sut caiff Cymru ei rhedeg. Dyma rai o’n gweithgareddau:

  • Dros 2,500 o ddinasyddion Cymru
  • Mae tua 1,000 o bobl wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â’r gymuned
  • Rydym wedi cynnal 15 sesiwn i gasglu tystiolaeth
  • Rydym wedi cynnal 5 gweithdy gyda gweithwyr proffesiynol ac arbenigwyr
  • Rydym wedi cynnal 24 o gyfarfodydd a gweithdai gyda gwahanol grwpiau a fforymau

Tri llwybr cyfansoddiadol hyfyw

Yn yr adroddiad, gwnaethom ddadlau nad yw’r sefyllfa bresennol yn opsiwn dichonadwy ar gyfer darparu sefydlogrwydd a ffyniant i Gymru.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi tri llwybr cyfansoddiadol dichonadwy ac amgen ar gyfer sut gellid rhedeg Cymru, a allai wella bywydau dinasyddion Cymru. Y tri llwybr yw:

  • Datganoli: wedi’i gryfhau a’i ddiogelu
  • Strwythur ffederal
  • Annibyniaeth

Gallwch ddarllen mwy am yr opsiynau hyn yma. Gallwch hefyd fynd i’n fforymau trafod i siarad ag eraill a gwrando ar wahanol safbwyntiau. Mae’r platfform ymgysylltu hwn yn rhan o’n gwaith i ddarparu gwybodaeth a chynnwys cynifer o bobl â phosibl.

Gallwch ddarllen y datganiad llawn i’r wasg yma

Cyhoeddi: 06 Ebr 2023, 04:56 PM